Amcanion y Project

Manteision i economi ardal gydgyfeirio Cymru:

  1. Mewnfuddsoddiad i sefydlu gallu ymchwil a datblygiadau masnachol newydd oherwydd:
    • cyswllt ag arbenigedd staff o fri rhyngwladol a chyfleusterau Prifysgol Bangor mewn meysydd twf allweddol mewn gwyddoniaeth a thechnoleg;
    • gweithwyr newydd o safon uchel ar gael o raglenni perthnasol penodol (e.e. graddedigion MSc)
  2. Gwella effeithlonrwydd a phroffidioldeb busnesau Cymreig presennol i adeiladu'r economi biowyddoniaeth:
    • ffermydd; contractwyr amaethyddol / coedwigaeth; ychwanegu gwerth trwy brosesu biomas (biomas môr yn ogystal â biomas tir) trwy ddulliau prosesu newydd ar ffermydd neu gan gontractwr lleol; gwella effeithlonrwydd gwastraff cyfoethog mewn maetholion ar ffermydd i gynnal cynhyrchiant amaethyddol yn y dyfodol;
    • cwmnïau cynnyrch/cadwyn gyflenwi amaethyddol/coedwigaeth (yn cynnwys bwyd a phecynnu bwyd, llifio coed a chynnyrch coed) trwy hyrwyddo'r defnydd mwyaf effeithlon o'u gwastraff/sgil-gynnyrch; creu marchnadoedd newydd iddynt ar y fferm ac ymhellach ar hyd y gadwyn fwyd;
    • cwmnïau arbenigol cemegol / fferyllol / deunyddiau ac ati - a oes digon ohonynt ac a yw'n realistig y gall Prifysgol Bangor / Parc Gwyddoniaeth ddarparu cynnyrch newydd iddynt.