Y Newyddion Diweddaraf

Mehefin 2021

Seminarau CEB yn cael eu gynnal ar y we

Mae CEB yn parhau i gynnal y gyfres o seminarau sy'n cael ei rhedeg gan Dr Olga Golyshina. Ar hyn o bryd, cynhelir y seminarau trwy Microsoft Teams:

  • Cyfrannodd Dr Tatyana Chernikova sgwrs ynglyn “Marine hydrocarbon-degrading bacteria: the oil-spill clean-up crew”.

  • Mi roddod Dr Daniel Chaplin gyflwyniad ar "Mass spectrometry for the analysis of metabolites and environmental microbiology".
  • Siaradodd Dr Rolf Kraehenbuehl ar “Metabolism - approaches for generating mass spectrometry-driven hypotheses and research”.

Papur ymchwil newydd gyda cyfraniad gan CEB

Mae’r papur ymchwil newydd yn y cyfnodolyn Computational and Structural Biotechnology Journal o’r enw  "Structure and evolutionary trace-assisted screening of a residue swapping the substrate ambiguity and chiral specificity in an esterase" - ScienceDirect  yn disgrifio peiriannu ensym sydd yn annethol o swbstrad, ond sydd hefyd yn "stereospecific".

 

Mawrth 2021

Ymunwch â ni ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod i gael sgyrsiau gan Merched mewn STEM

8 Mawrth 2021

13:00 - 14:30 GMT

#IWD #IWD2021 #STEM #WomeninSTEM

Mae’r fideo newydd ar gael ar YouTube:

Diwrnod Rhyngwladol y Merchd 2021 - International Women's Day 2021 - YouTube


Tachwedd 2019

Croeso i Connie, aelod newydd o'r Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol!

Heddiw rydym yn rhoi croeso cynnes i Connie Tulloch, Technegydd Ymchwil newydd a myfyriwr PhD o'r Ganolfan! Bydd Connie yn gweithio ar y Project Fector Plastig yn edrych ar yr ymsefydlu microbaidd ar ficroplastigion a gallu metabolaidd microbaidd.


 

Medi 2019

Llwyddiant Diwrnod Bioleg Gemegol Cymru

Agorwyd Diwrnod Bioleg Gemegol Cymru ym Mhrifysgol Bangor gan yr   Athro David N. Thomas, Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil.

Ar ôl cyflwyniad byr (gan Samuel Wright, Canolfan Biotechnoleg Amgylcheddol), rhoddodd Dr Dafydd Owen (Pfizer) ddarlith gyda'r teitl "Novel chemical probes to accelerate biology".

Rhoddodd yr Athro Simon Ward (Caerdydd) ddarlith ar Niwroseiciatreg, ar ôl cyflwyniad byr (gan Gwion Williams, CEB).

Cafwyd anerchiad gan Dr Aled Edwards (Pennaeth, Consortiwm Genomeg Strwythurol, Toronto a Rhydychen), ar y pwnc 'Open Drug Discovery: Genes to Affordable Medicines' yn dilyn cyflwyniad byr gan Dr Marco Distaso (CEB).


 

Awst 2019

Diwrnod Bioleg Gemegol Cymru

Dydd Gwener 13  Medi 2019

9:00am tan hanner dydd

Lleoliad:  Adeilad Pontio, Ystafell PL2

 

Cynhelir Diwrnod Bioleg Gemegol Cymraeg ar 13 Medi 2019, mae'r prif siaradwyr yn cynnwys:

Dr Dafydd Owen (Pfizer) -

Teitl: Chwiliedyddion cemegol newydd i gyflymu bioleg

Sefydliad: Pfizer Medicine Design, Caergrawnt, MA, UDA

Yr Athro Simon Ward (Caerdydd) -

Teitl:  Niwroseiciatreg

Sefydliad: Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau, Prifysgol Caerdydd

Dr Aled Edwards (Pennaeth, Consortiwm Genomeg Strwythurol, Toronto a Rhydychen)

Teitl:    Darganfod Cyffuriau Agored: Genynnau i Feddyginiaethau Fforddiadwy

Sefydliad:  Consortiwm Genomeg Strwythurol, Toronto (Canada), Rhydychen (DU), Stockholm (Sweden), Frankfurt (Yr Almaen), Chapel Hill (UDA), Campinas (Brasil)

Yn arbenigo ym maes darganfod cyffuriau, bioleg strwythurol a chefnogwyr 'gwyddoniaeth mynediad agored'.

Cynhelir sesiwn holi ac ateb ar ôl pob cyflwyniad.

Mae’r digwyddiad hwn am ddim ac mae croeso i bawb.  Cofrestrwch drwy Eventbrite

Ceir rhagor o wybodaeth gan:  

Dr Olga Tverezovskaya

(01248) 383587

                                                               

o.tverezovskaya@bangor.ac.uk

Noddir y digwyddiad hwn ar y cyd gan Brifysgol Bangor, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop Llywodraeth Cymru, Canolfan Biotechnoleg Amgylcheddol


 

Gorffennaf 2019

Arolwg newydd ar boblogaeth microbaidd

Mae tîm CEB a chydweithwyr yn Rwsia yn cynnal arolwg ar boblogaethau microbaidd mewn systemau asidig o ddyddodion polymetallig yn yr ardal mwyngloddio o bwys hanesyddol yn Transbaikal. Astudiaeth wedi'i chefnogi gan @royalsociety, #РФФИ a @LlywodraethCymru trwy @CEB_Bangor

https://www.frontiersin.org/articles/10.3389/fmicb.2019.01573/full


 

Mehefin 2019

Nesaf yng Nghyfres Seminarau Canolfan Biotechnoleg Amgylcheddol

Cynhaliwyd y Seminar CEB ddiweddaraf ddydd Mercher, 26 Mehefin. Rhoddodd Lydia-Ann Ghuneim sgwrs ddiddorol ar “Beyond the filter: an investigation of filterable lotic microorganisms”.


Mae Project Horizon 2020 sy'n gysylltiedig â CEB wedi'i gwblhau'n llwyddiannus.

Mae Project INMARE Horizon 2020, dan arweiniad yr ymchwilwyr Olga Golyshina a Peter Golyshin wedi'i gwblhau'n llwyddiannus. Gwyliwch y ffilm i weld ffeithiau allweddol ar wefan INMARE.


Astudiaeth newydd o ficro-organeb asidoffilig.

Mae papur ymchwil newydd Diversity of “Ca. Micrarchaeota” in Two Distinct Types of Acidic Environments and Their Associations with Thermoplasmatales gan wyddonwyr CEB, Dr Olga Golyshina, Dr Rafael Bargiela, Dr Soshila Ramayah a'r Athro Peter Golyshin wedi'i gyhoeddi yn Rhifyn Arbennig Genes,  Genetics and Genomics of Acidophiles.


 

Mai 2019

Cyfres Seminarau CEB y mis hwn.

Bydd y seminar CEB nesaf yn cael ei gynnal ddydd Mercher, 29 Mai. Bydd Francesca Brailsford yn rhoi sgwrs ar “Microbial processing of dissolved organic matter (DOM) in freshwater ecosystems”.

Lleoliad: ystafell seminar llawr gwaelod ECW, Amser: 15:30-16:00


 

Ebrill 2019

Dr Olga Golyshina yn siaradwr gwadd yn y Gymdeithas Microbioleg Gyffredinol, 11.04.2019.

Mae Olga Golyshina o CEB yn siaradwr gwadd ar archaea asidoffilig newydd yng Nghynhadledd Flynyddol y Gymdeithas Microbioleg Gyffredinol 2019 yn Belfast.

@MicrobioSoc   


 

Mawrth 2019

Nesaf yng Nghyfres Seminarau Canolfan Biotechnoleg Amgylcheddol

Bydd y gyfres Seminar yn parhau ar 27 Mawrth. Y tro hwn, bydd pedwar cyflwynydd, Daniel Thomas Chaplin, Dr Rolf Kraehenbuehl, Colin Potter, a Dr Karin Lanthaler yn rhoi sgyrsiau'n benodol am Sbectrometreg Mas, gyda theitl cyffredinol “From metabolomics to proteomics: how can the CEB MS facility assist your research?”.

Lleoliad: ystafell seminar llawr gwaelod ECW, Amser: 16:00-16:30

Gweithdy Illumina a drefnwyd gan CEB, 21.03.2019.

Rhoddodd Jingwen Wang a Jo Stobbs (Illumina, Caergrawnt) seminar ar gymwysiadau posibl ar gyfer system Illumina MiSeq® a brynwyd gan CEB mewn ymchwil microbioleg, canser, ecoleg ac esblygiad i ddenu darpar ddefnyddwyr ymchwil-weithredol a hwyluso ennill rhagor o grantiau ymchwil. Dilynwyd y cyflwyniad gan sesiwn Holi ac Ateb. Aeth nifer fawr o aelodau staff Ysgol Gwyddorau Naturiol i'r gweithdy Illumina.


 

Chwefror 2019

Yr Athro Michail Yakimov yn ymweld â CEB

CEB yn croesawu Yr Athro Michail Yakimov, Cyfarwyddwr Sefydliad Adnoddau Biolegol a Biotechnoleg y Môr (CNR) ym Messina (Sisili), arbenigwr uchel ei barch ym mioleg micro-organebau eithafoffilig.

Cyflwynodd Michail seminar o'r enw "Life on Mars?" Pam lai? ynglŷn â chreaduriaid microbaidd sy'n byw mewn amgylcheddau gorhalwynog (genomeg, ffisioleg a rhyngweithiadau) a chyfarfu ag aelodau o'r Coleg.


Bydd Cyfres Seminarau CEB yn Dechrau'r Mis Yma

Bydd y gyfres o seminarau misol CEB yn dechrau ddydd Mercher 27ain Chwefror.

Y mis yma, bydd Michail Yakimov (CNR, Messina, Yr Eidal) yn rhoi sgwrs ynghylch

Life in deep-sea anoxic brine lakes, the closest proxies of eventual subglacial lakes on Mars

Lleoliad: ECW, ystafell seminar y llawr gwaelod, Amser: 15: 30-16: 00


 

MSc Microbioleg a Biotechnoleg Amgylcheddol trwy Ymchwil

Mae'r MSc trwy Ymchwil mewn Microbioleg a Biotechnoleg Amgylcheddol  yn rhaglen amser-llawn am flwyddyn sy'n wahanol i raglen Meistr hyfforddedig o ran ei bod yn rhoi mwy o bwyslais ar ymchwil, ac mae'n cael ei harholi'n debycach i PhD, trwy arholiad viva voce (llafar), yn hytrach na graddio gwaith cwrs a thraethawd hir. Bydd y radd hon yn rhoi hyder a chymhwysedd i chi yn y sgiliau ymchwil diweddaraf (gan gynnwys sgiliau generig megis chwilio llenyddiaeth, agweddau cyfreithiol a moesegol, cynllunio projectau, ysgrifennu cynigion grant, a thrin data ystadegol) a bydd yn eich galluogi chi i wneud cais am hyfforddiant ymchwil pellach (PhD), neu i wneud cais uniongyrchol am swyddi ymchwil mewn prifysgolion neu sefydliadau ymchwil.

Byddwch yn treulio'r tri mis cyntaf yn mireinio'ch cynnig project ac yn cynnal adolygiad trylwyr o'r Llenyddiaeth. Byddwch hefyd yn cyflwyno'ch cynnig i weddill y garfan a'r goruchwylwyr. Bydd yr adborth a gewch chi'n eich galluogi i wella'r project a'r traethawd ymchwil. Bydd disgwyl i chi hefyd fanteisio ar y rhaglen hyfforddiant a ddarperir gan Goleg y Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg ac Ysgol y Graddedigion ac Ysgol Doethurol y Brifysgol mewn sgiliau pwnc-benodol a generig ôl-raddedig.

Cewch ragor o fanylion am arbenigeddau ymchwil a manylion cyswllt y staff ar dudalennau Ymchwil yr Ysgol Gwyddorau Naturiol. Yn ogystal â chynnig cefnogaeth gref ar gyfer gweithgareddau ymchwil, mae'r Ysgol yn cynnig cyfleoedd rhagorol i fyfyrwyr gynnal gwaith project dan oruchwylwyr rhyngwladol cydnabyddedig a phrofiadol sy'n gysylltiedig hefyd â'r CEB.

Caiff projectau a ariennir yn benodol sy'n arwain at y radd hon eu hysbysebu o dro i dro, ond mae croeso i chi drafod opsiynau ar unrhyw adeg gyda darpar oruchwylwyr.

Dyma enghreifftiau o bynciau projectau posibl (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):

  • darganfod ensymau newydd o berthnasedd diwydiannol o ficro-organebau eithafoffilig a'u cymunedau;
  • tyfu archaea eithafoffilig (e.e. hyperacidoffilig);
  • microbioleg diraddiad petrolewm yn amgylcheddau'r môr: eu meithrin ac astudiaethau OMICS);
  • cymhwyso bacteria'r môr sy'n diraddio olew (ensymau, syrffactyddion, biopolymerau, osmolytau);
  • dadansoddiad meithriniad-annibynnol (metagenomaidd) o gyfansoddiad tacsonomeg a photensial gweithrediadol cymunedau microbiaid;
  • ymchwilio i rôl micro-organebau'r môr a'u hensymau yn nhynged plastigau polyester synthetig
  • cymhwyso technolegau proteomeg i ddarganfod ensymau (egwyddorion cyffredinol, paratoi samplau a threuliad ensymatig protinau, dadansoddiad LC-MS o gymysgeddau peptid a dadansoddi data (biowybodeg);
  • cymhwyso technolegau metabolomeg i ddarganfod ensymau (egwyddorion cyffredinol, paratoi samplau, modd targedu a darganfod, dadansoddiad LC-MS o gymysgeddau metabolit cymhleth a dadansoddi data (biowybodeg);
  • cymhwyso technolegau lipidomig i gymunedau o ficrobiaid (egwyddorion cyffredinol, paratoi samplau, tynnu lipidau, modd targedu a darganfod, dadansoddiad LC-MS o gymysgeddau metabolit cymhleth a dadansoddi data (biowybodeg);

Bydd y myfyrwyr hefyd yn elwa o'r cysylltiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol helaeth sydd gennym â sefydliadau'r sector wladol a phreifat.

Y Gofynion Mynediad

Gradd gyntaf dda (2.ii neu uwch) mewn pwnc biolegol perthnasol o brifysgol, neu gymhwyster tebyg gan unrhyw sefydliad arall. Fel arall, gellir eich derbyn os ydych yn meddu ar gymhwyster proffesiynol addas a phrofiad ymarferol perthnasol.  Mi wnawn ni ystyried myfyrwyr aeddfed sydd heb radd hefyd ond sydd â phrofiad diweddar a pherthnasol sylweddol (e.e. diwydiannol).

Myfyrwyr Rhyngwladol

Am ragor o wybodaeth a chanllawiau manwl pellach ynghylch y gofynion mynediad i Fyfyrwyr Rhyngwladol, gan gynnwys y gofyniad mynediad sylfaenol sy'n ymwneud â'r iaith Saesneg, ewch i'r tudalennau Gofynion Mynediad yn ôl Gwlad yn adran Canolfan Addysg Ryngwladol yr Ysgol Gwyddorau Naturiol ar wefan Prifysgol Bangor.

Ymgeisio

Rhaid i'r ymgeiswyr gyflwyno llythyr cymhelliant gyda chynnig o broject byr (uchafswm o 1000 o eiriau ar un o'r pynciau a restrir).

Rhoddir cynnwys y cwrs ar gyfer arweiniad yn unig a gall newid.


Llwyddiant i Fyfyriwr PhD CEB

Cwblhaodd Marco Distaso ymchwil yn "Dulliau Metagomeg o Ddarganfod Ensymau Newydd sy'n Berthnasol i Ddiwydiant". 

Canmolwyd Marco (isod ar y chwith, gyda'i oruchwyliwr PhD, yr Athro Peter Golyshin) am ansawdd ei draethodau gan ei arholwyr. Bydd yn graddio fis Gorffennaf 2019.


 

Ionawr 2019

Mae Papur Ymchwil Newydd yn taflu goleuni ar ffyniant yr Archaea  mewn Ecosystem Eithafol

Darganfu Gwyddonwyr CEB Dr Olga Golyshina, yr Athro Peter Golyshin a Dr Rafael Bargiela lu o Archea mewn amgylchedd hynod asidig o fwynau ar Fynydd Parys (Ynys Môn, y Deyrnas Unedig). Am ragor o fanylion, dilynwch y ddolen.