CEB yn y Cyfryngau

Agor canolfan ymchwil biotechnoleg newydd Prifysgol Bangor

Mae canolfan ymchwil a fydd yn darganfod ensymau newydd gyda'r potensial i drawsnewid effeithlonrwydd diwydiannau biotechnoleg wedi cael ei hagor yn ddiweddar ym mhresenoldeb gwyddonwyr ymchwil o bob rhan o Ewrop, cynrychiolwyr o'r diwydiant a swyddogion o Lywodraeth Cymru.
Mae'r Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol (CEB) yn rhoi Prifysgol Bangor ar flaen y gad i ymchwilio i sut y gellir defnyddio micro-organebau anarferol sy'n byw mewn amgylcheddau eithafol (a elwir yn 'eithafoffiliau' "extremophiles") i wneud prosesau a chynhyrchion diwydiannol yn "wyrddach". Bydd y CEB yn darparu offer diweddaraf ac arbenigedd gyda'r mwyaf blaenllaw yn y byd i adnabod ac ynysu ensymau o'r micro-organebau hyn.

(Chwith-Dde) Baudewijn Morgan (WEFO), Yr Athro John Healey (Ysgol Gwyddorau Naturiol), Yr Athro Colin Jago (Ysgol Gwyddorau Eigion), Yr Athro John G Hughes (Is-Ganghellor), Yr Athro Bela Paizs ac Yr Athro Peter Golyshin (y ddau CEB Cyd-Gyfarwyddwyr).

Ar hyn o bryd, mae llawer o sectorau diwydiannol megis bwyd, fferyllol, cemegau pur, colur, ynni a deunyddiau newydd yn defnyddio prosesau synthesis cemegol aneffeithlon. Mae ar y rhain angen llawer iawn o ynni ac maent yn defnyddio hydoddion organig sy'n niweidiol i iechyd ac i'r amgylchedd.  Mae hyn yn rhoi costau uchel ar y diwydiannau hyn.

Er mwyn defnyddio prosesau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd yn lle synthesis cemegol bydd y CEB yn adnabod, datblygu a phrofi catalyddion biolegol (ensymau) o eithafoffiliau.  Oherwydd bod y micro-organebau hyn yn gallu byw dan amodau caled tymheredd uchel, halwynedd neu asidedd, mae eu hensymau yn addas iawn i weithio mewn amodau eithafol proses ddiwydiannol. Bydd hyn yn lleihau'r defnydd o ynni, llygredd a chostau yn sectorau allweddol yr economi, megis gwyddorau bywyd, fferyllol a gweithgynhyrchu cemegol.

Wrth siarad yn y cyfarfod lansio, dywedodd Yr Athro Peter Golyshin, Athro Biotechnoleg ym Mhrifysgol Bangor a Chyd-Gyfarwyddwr y ganolfan newydd: "Mae'r Ganolfan newydd hon yn gyfle gwych i gyfuno arbenigedd staff blaengar y brifysgol mewn bio ddadansoddi gyda'n harbenigedd blaenllaw mewn microbioleg a genomeg eithafoffiliau a darganfod a defnyddio ensymau.  Trwy alluogi'r tîm hwn i weithio mewn canolfan newydd gyda'r offer ymchwil diweddaraf, bydd y Ganolfan yn arwain at ddarganfyddiadau newydd o bwys ar sut y gall eithafoffiliau oroesi ar ffiniau bywyd a sut y gallwn ddefnyddio'r gallu hwn i sicrhau datblygiadau arloesol yn effeithlonrwydd a chynaliadwyedd amgylcheddol llawer o brosesau diwydiannol."

Mae'r Ganolfan, sydd o fewn Ysgol Gwyddorau Naturiol y Brifysgol, wedi derbyn £5 miliwn o arian yr Undeb Ewropeaidd trwy Lywodraeth Cymru a bydd yn hybu gallu'r rhanbarth i weithio gyda diwydiant ac i ddatblygu ymhellach y sector hwn sy'n datblygu'n gyflym.

Wrth groesawu'r datblygiad diweddaraf hwn i bortffolio ymchwil Prifysgol Bangor, dywedodd Ken Skates AC, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Economi a Thrafnidiaeth:
"Mae'n wych gweld y cyfleuster blaengar hwn ar waith. Dyma bluen arall yn het Prifysgol Bangor, a bydd yn darparu ymchwil arloesol yn y sector byd-eang hwn sy'n ehangu'n gyflym, gan annog mewnfuddsoddi a sicrhau bod Cymru'n manteisio'n llawn ar gyfleoedd yn y dyfodol.

"Mae'n bwysig hefyd i gydnabod y gwnaed hyn yn bosib diolch i £5m o arian yr UE, sy'n parhau i chwarae rhan mor bwysig wrth gefnogi twf, arloesi a swyddi ledled Cymru. Mae'n hollbwysig i gymaint o'n sectorau a sefydliadau ein bod yn gweld cyllid newydd yn dod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. "
Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2018

 

CEB Digwyddiad Agor