Canolfan Biotechnoleg Amgylcheddol a Themâu Trawsbynciol
Mae’r Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol wedi ymrwymo i ymgorffori diwylliant o gynaliadwyedd a lles ym mhob agwedd ar y project
Mae’r Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol wedi ymrwymo i gyfrannu at gynaliadwyedd y brifysgol, y rhanbarth a'r byd.
Mae ein polisi datblygiad cynaliadwy yn cyd-fynd â Nodau Llywodraeth Cymru a Nodau'r Cenhedloedd Unedig. Mae ein gweithrediadau yn adlewyrchu nod Prifysgol Bangor i fod yn 'brifysgol gynaliadwy'.
Y prif elfennau y mae'r Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol yn rhoi sylw iddynt
CYFLE CYFARTAL A PHRIF-FFRYDIO RHYWEDD
- Cefnogi gwyddonwyr sy’n ferched i ddatblygu eu gyrfa (Siarter Athena SWAN).
- Ceisio ehangu amrywiaeth y gweithlu, sicrhau bod y cyfleoedd recriwtio a’r swyddi ar gael i bawb, yn cynnwys rhai sydd â nodweddion gwarchodedig (Deddf Cydraddoldeb 2010).
- Ystyried yr iaith Gymraeg, yn cynnwys darparu deunydd sydd ar gael i'r cyhoedd mewn fformat dwyieithog. Mae hyn yn cynnwys deunyddiau cyhoeddusrwydd a chynnwys gwefannau.
DATBLYGIAD CYNALIADWY
- Canolbwyntio ar ddefnyddio systemau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) i leihau ein hôl troed carbon sy'n gysylltiedig â theithio.
- Paratoi a gweithredu cynllun rheoli amgylcheddol safle i gynnwys mesurau atal llygredd a chael gwared á gwastraff gweddilliol yn unol ag arfer gorau amgylcheddol.
- Datblygu cod eco i ddarparu awgrymiadau ymarferol a nodiadau atgoffa i arbed ynni, arbed dŵr ac annog gwell rheolaeth ar wastraff.
- Hybu effeithlonrwydd adnoddau trwy gefnogi ymchwil i 'fiotechnoleg wen' ar gyfer y sector bwyd, y diwydiant fferyllol, cemegol, colur, ynni a deunyddiau newydd.
RHOI SYLW I DLODI AC ALLGAU CYMDEITHASOL
Gyda'r nod cyffredinol o gynyddu incwm ymchwil yng Nghymru i greu cyflogaeth a thwf economaidd sefydlog.
- Trwy gryfhau'r sector sy'n seiliedig ar wybodaeth a chreu swyddi da sy’n gofyn am sgiliau uwch mewn cadwyni cyflenwi o fewn y gweithrediadau, bydd y Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol yn cyfrannu at y nodau 'llesiant' a ddiffinnir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015) Llywodraeth Cymru.
- Bydd ein hymchwil yn cyfrannu at helpu i ymdrin â newid yn yr hinsawdd, ac at ddeall y dewisiadau a'r ymddygiad sy'n effeithio ar iechyd pobl.